Ask usGofynnwch i ni
Frequently asked questionsCwestiynau Cyffredin
Sut ydw i'n archebu cyfle i weld?
Mae ein fflatiau arddangos eisoes ar agor, felly edrychwn ymlaen at eich tywys o gwmpas â'ch siarad trwy bopeth. Rhowch alwad i'n Tîm Gwasanaethau Preswylwyr ar 0292 0024655 neu anfonwch e-bost at [email protected] a byddwn yn hapus i archebu lle i chi.
Pryd fedraf symud i mewn?
Mae ein fflatiau ar gael i’w gosod nawr.
Ydy'r fflatiau wedi'u dodrefnu?
Gall eich fflat ddod â'n pecyn dodrefn o ansawdd uwch, sy'n cynnwys darnau moethus o frandiau dylunwyr. Rydyn ni wedi meddwl trwy bob manylyn – o fyrddau cynaliadwy wrth ochr y gwely, i'r gwelyau moethus dwbl neu maint brenin ym mhob ystafell wely. Neu gallwch ddewis fflat heb ddodrefn a dod â'ch dodrefn eich hun. Chi biau'r dewis.
A oes maes parcio?
Oes, mae 50 o leoedd parcio diogel wedi'u neilltuo yn arbennig ar gyfer preswylwyr. Gallwch wneud cais i rentu un am ffi fisol. Rhowch alwad i'n Tîm Gwasanaethau Preswylwyr ar 0292 0024655 neu anfonwch e-bost at [email protected]
Ydy'r gampfa'n costio mwy? Pryd fydd yn agor?
Na, nid yw'n costio dim mwy, felly gallwch ymarfer yno cymaint ag y dymunwch. Gofynnwch i'n Tîm Gwasanaethau Preswylwyr am ragor o wybodaeth ar sut i ymuno. Bydd y gampfa yn agor ym mis Mehefin.
Pa fath o anifeiliaid anwes a ganiateir?
Mae ein fflatiau yn gyfeillgar i anifeiliaid anwes, ond mae rhai cyfyngiadau ar y math, maint a brîd. Fel canllaw cyffredinol, mae anifeiliaid anwes bach yn iawn, ond efallai na fydd rhai canolig a mawr. Gallwch weld copi o'r Polisi Anifeiliaid Anwes yma.
A allaf addurno'r fflat?
Gallwch. Mae angen i chi lenwi ffurflen Cais am Newidiadau a chael cymeradwyaeth y tîm ar y safle yn gyntaf.
A yw band eang wedi'i gynnwys?
Ydy, mae 100 mbs wedi'i gynnwys am ddim. Darperir band eang ym mhob fflat at ddefnydd preswyl ac mae Wi-Fi ar gael yn yr ardaloedd cymunedol. Y darparwr yw Glide. Er mwyn cael mynediad i fand eang y fflat, bydd angen i chi lofnodi Telerau ac Amodau Glide. Bydd fflatiau hefyd yn cael eu sefydlu ar gyfer Freeview.
A oes storfa i feiciau?
Oes. Mae'n rhad ac am ddim ac yn ddiogel gyda mynediad ffob y tu mewn i'r adeilad ac ar gael i breswylwyr ar sail y cyntaf i'r felin. Mae 160 o leoedd ar gael. Cyn defnyddio'r storfa beiciau am y tro cyntaf, ewch i'r Tîm Gwasanaethau Preswylwyr i gadarnhau gwneuthuriad, model a lliw eich beic. Byddwch hefyd angen clo beic a chadwyn i ddiogelu'r beic yn y stand.
A oes ardaloedd cymunedol?
Oes, yn bendant. Llawer! Mae Wood Street House yn cynnwys nifer o fannau a rennir sydd ar gael i'r holl breswylwyr. Mae'r rhain yn cynnwys lolfa preswylwyr, mannau bwyta preifat, campfa, mannau cydweithio a theras preifat. Mae'r ardaloedd hyn yn cynnig lle gwych i ymlacio ynddynt, cwrdd â phreswylwyr eraill, neu weithio ohonynt i newid golygfa.
A fydd digwyddiadau i drigolion?
Yn bendant. Rydym yn creu cymuned fywiog a byddwn yn cynnal digwyddiadau rheolaidd. Popeth o flasu gwin a chaws, dosbarthiadau ffitrwydd rhithwir, barbeciws haf, clybiau llyfrau, pobi cacennau, clwb beiciau, clwb rhedeg, gweu a siarad, diwrnodau gwirfoddoli elusennol a yoga. Mae rhywbeth at ddant pawb.
Ydw i'n cael unrhyw ostyngiad i breswylwyr?
Ydych. Mae ein holl breswylwyr yn cael mynediad at ostyngiadau busnes lleol yn arbennig ar gyfer ein preswylwyr. O fwyta allan yn eich hoff fwyty ar gyfer y garreg filltir fawr honno neu fwynhau taith o amgylch un o’n distyllfeydd gwych niferus o amgylch Caerdydd.
Pa fath o gontractau fydd ar gael?
Y cytundeb y byddwch yn ei lofnodi yw Contract Meddiannaeth Cymreig am gyfnod penodol, gyda’r opsiwn i lofnodi contractau yn y dyfodol. Gobeithiwn y byddwch yn aros cyhyd ag y dymunwch.
Oes rhaid i mi dalu blaendal am fy fflat pan fyddaf yn symud i mewn?
Gofynnwn am flaendal cyn i chi symud i mewn, ac mae hwn wedi'i gofrestru gyda chynllun blaendal tenantiaeth cymeradwy. Caiff ei ad-dalu i chi pan fyddwch yn symud allan yn unol â thelerau eich contract a chyflwr yr eiddo.
A allaf gael barbeciw ar fy malconi neu deras?
Na allwch. Mae hyn yn berygl tân i'r adeilad a'r trigolion.
A allaf ysmygu yn fy fflat?
Na allwch. Ni allwch ysmygu yn y fflat nac unrhyw le yn yr adeilad gan gynnwys ar derasau cymunedol. Defnyddiwch y mannau dynodedig y tu allan i'r adeilad.
A allaf logi'r ystafelloedd cyfarfod preifat neu'r ystafelloedd bwyta?
Galwch, gellir llogi'r rhain am ffi, a gellir eu cadw trwy'r Tîm Gwasanaethau Preswylwyr.
Oes angen i mi dalu am gyfleustodau?
Oes, mae angen i chi dalu am gyfleustodau Nid yw cyfleustodau wedi'u cynnwys yn y rhent. Mae gwres a dŵr poeth yn cael eu cyflenwi trwy system ganolog ac yn cael eu bilio ar sail defnydd. Rhaid talu'r biliau hyn trwy ddebyd uniongyrchol. Mae dŵr a thrydan yn cael eu bilio ar yr un sail. Mae preswylwyr yn gyfrifol am dalu eu treth gyngor yn uniongyrchol i Gyngor Dinas Caerdydd. Mae preswylwyr hefyd yn gyfrifol am dalu unrhyw Drwydded Deledu yn uniongyrchol i TV Licensing.
A oes gwasanaeth cymorth ar-lein?
Oes. Mae gan bob preswylydd fynediad i Borth Preswylwyr preifat lle gallwch ddarllen canllawiau defnyddiol i ddefnyddwyr fflatiau, cofnodi unrhyw geisiadau cynnal a chadw, gweld balans eich rhent yn eich cyfrif, a derbyn diweddariadau adeiladau a digwyddiadau cymunedol rheolaidd.
Byddwch yn cael enw defnyddiwr a mewngofnodi i'r Porth Preswylwyr gan y Tîm Gwasanaethau Preswylwyr.
Pwy yw fy landlord?
Mae Wood Street House yn eiddo adeiladu i'w rentu a grëwyd gan Legal & General.
Pwy yw fy asiant rheoli?
Urbanbubble yw'r Asiant Gosod cofrestredig ar gyfer y gymuned hon.
Gyda phwy ddylwn i gadw mewn cysylltiad yn ystod y broses ymgeisio?
Cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Preswylwyr gan ddefnyddio'r e-bost [email protected] neu fel arall ffoniwch nhw’n uniongyrchol ar rif ffôn Wood Street House 0292 0024655. Bydd y Tîm yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar bob pwynt ac yn eich arwain drwy'r broses gyfeirio syml.
Beth sy'n cael ei gynnwys yn fy rhent?
- Eich fflat
- Dodrefn dylunwyr os yn berthnasol
- Band eang
- Storfa Beiciau
- Tîm rheoli a phorthor ar y safle
- Casgliad parseli
- Tîm cynnal a chadw ar y safle
- Ein holl gyfleusterau:
- Campfa
- Teras Awyr Agored
- Lolfa Gemau a Theledu
- Gofod Gweithio
Pa ddogfennau sydd eu hangen i gychwyn y broses ymgeisio?
Mae angen dull adnabod â llun arnom:
- Ar ffurf pasbort neu gerdyn adnabod cenedlaethol
Os nad oes gennych basbort, rhowch y ddau o'r canlynol i ni:
- Copi o'ch trwydded yrru lawn neu gerdyn llun dros dro y DU
- Copi o'ch tystysgrif geni
Rydym hefyd angen Prawf o'ch Cyfeiriad dyddiedig yn ystod y 3 mis diwethaf.
Siaradwch â'r Tîm Gwasanaethau Preswylwyr ar y safle os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o'r uchod.
Heb y ddogfennaeth hon ni all eich cais ddechrau. Felly mae'n hanfodol bod y dogfennau hyn yn cael eu derbyn cyn gynted â phosibl.
E-bostiwch y dogfennau i [email protected] os nad ydych eisoes wedi darparu'r rhain yn ystod y broses ymholi/ymweld.
Beth yw gwiriad geirda?
- Unwaith y bydd y ddogfen lawn wedi’i derbyn, bydd manylion eich cais yn cael eu hanfon at ein hasiantaeth gyfeirio gymeradwy y gellir ymddiried ynddi, The Lettings Hub. Byddwn yn ymdrechu i wneud hyn cyn gynted â phosibl er mwyn peidio â'ch oedi rhag symud i'ch cartref newydd!
- Bydd The Lettings Hub yn anfon e-bost atoch ar unwaith ac yn gofyn i chi lenwi eu ffurflen gais ar-lein.
- Cwblhewch y ffurflen cyn gynted ag y daw i law fel y gall The Lettings Hub ddechrau eich gwiriad.
- Lle bo angen, bydd y gwiriad geirda yn cynnwys tystlythyr cyflogaeth a landlord blaenorol.
- Ar ôl cwblhau'r gwiriad geirda, bydd The Lettings Hub yn cysylltu â'r Tîm Gwasanaethau Preswylwyr ac yn cadarnhau a ydych wedi pasio neu wedi methu.
- Os ydych wedi pasio, byddwn yn eich ffonio i roi gwybod am hyn ac i gytuno ar ddyddiad symud i mewn ac i drafod y camau nesaf.
- Os ydych wedi methu, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn a lle bo'n bosibl byddwn yn awgrymu ffyrdd eraill o gefnogi a pharhau â'ch cais.
Pwy sy'n trefnu fy nyddiad symud i mewn?
- Ar ôl pasio'ch gwiriad geirda, bydd aelod o'r Tîm Gwasanaethau Preswylwyr yn eich ffonio i roi gwybod i chi am hyn a chytuno ar eich dyddiad symud i mewn. Bydd y trefniadau wedyn yn cael eu cadarnhau drwy e-bost.
- Bydd y fflat yn cael ei archwilio ar y safle ar gyfer cynnal a chadw a glanhau cyn i chi symud i mewn fel bod eich cartref newydd yn berffaith!
- Byddwn yn e-bostio eich Contract atoch i'w lofnodi a chyfrifiad o arian symud i mewn.
- Mae angen taliad wedi’i glirio yn ein cyfrif banc cyn symud i mewn yn ogystal â’ch contract wedi’i lofnodi er mwyn osgoi oedi wrth symud i mewn.
- Heb y ddwy eitem uchod, ni ellir cyfnewid allweddi a bydd yn rhaid i ni wthio'r dyddiad symud yn ôl.
Beth sy'n digwydd ar ôl i mi symud i mewn?
- Bydd y Tîm Gwasanaethau Preswylwyr yn uwchlwytho Contract wedi'i gydlofnodi, Rhestr Eiddo eich fflat a'ch Canllaw Croeso (sy'n cynnwys gwybodaeth am y safle anhygoel, yr amwynderau a'r cyfleusterau sydd ar gael i chi), i'r Porth Preswylwyr.
- Ar ôl i chi symud i mewn, bydd unrhyw ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych yn cael eu hateb yn hapus gan ein tîm Blaen y Tŷ neu ein Tîm Gwasanaethau Preswylwyr ar y safle.
- Os, ar ôl symud i mewn, yr hoffech chi daith dywys arall a chyflwyniad i'r cyfleusterau ar y safle, anfonwch e-bost at [email protected] neu galwch heibio i weld y tîm wyneb yn wyneb a byddwn yn amserlennu dyddiad ac amser!
- Ein nod yw eich cael i symud i mewn mor llyfn â phosibl, felly mae angen i ni gwblhau’r broses ymgeisio o fewn 7 diwrnod ar y contract cychwynnol gan The Lettings Hub (yn unol â’ch ffurflen archebu wedi’i llofnodi). Gall oedi olygu bod eich cais yn cael ei ganslo a'r fflat yn mynd yn ôl ar y farchnad.
What are you looking for?
See the latest from our community by following us on Instagram Gallwch weld y diweddaraf o'n cymuned trwy ein dilyn ar Instagram @