Polisi Anifeiliaid Anwes
Rhagymadrodd
Mae'r Polisi hwn yn berthnasol i'n cwsmeriaid a hoffai gadw anifail anwes yn eu cartref yn Tŷ Stryd Wood.
Nod ein gwasanaeth yw darparu amgylchedd diogel a hylan sy'n lleihau'r risg y caiff unigolion eu niweidio gan anifail.
Polisi
1. Uchafswm o ddau anifail anwes fesul fflat.
2. Rhaid i breswylwyr sy'n dymuno cadw anifail anwes wneud 'Cais am Breswyliad Anifeiliaid Anwes' i'w gymeradwyo gan Dîm Tŷ Stryd Wood.
3. Rhaid i breswylwyr sy'n dymuno cadw anifail anwes ychwanegol ar ôl symud i mewn i'r eiddo wneud cais am ganiatâd yn gyntaf trwy'r un Cais am Breswyliad Anifeiliaid Anwes.
4. Ar gyfer rhai anifeiliaid anwes, e.e. cŵn, cathod a chwningod, bydd gofyn i chi dalu gordal misol fesul anifail anwes i dalu'r costau gweinyddol a rheoli ychwanegol sy'n gysylltiedig â chadw anifeiliaid anwes yn yr Adeilad.
5. Ni chaniateir anifeiliaid anwes yn y gampfa
6. Rhaid cadw anifeiliaid anwes ar dennyn neu mewn cawell neu gludwr bob amser y tu allan i'r fflat mewn unrhyw fannau cyhoeddus, mannau cymunedol a llwybrau cerdded. Codir dirwy am anifeiliaid anwes nad ydynt ar dennyn neu mewn cawell neu gludwr.
7. Byddwch yn gyfrifol am eich anifeiliaid anwes yn unol â Deddf Lles Anifeiliaid 2006. Os yw Tîm Tŷ Stryd Wood yn credu bod anifail anwes a gedwir yn yr eiddo wedi’i esgeuluso neu wedi’i adael, bydd yn rhoi gwybod i sefydliad lles anifeiliaid priodol yn unol â’r Broses Lles Anifeiliaid.
8. Ni ddylid gadael cŵn ar eu pen eu hunain yn y fflat am fwy na 4 awr ar y tro. Rhaid i chi sicrhau na fydd y ci yn dianc o'ch fflat, a/neu'n achosi difrod i'r eiddo neu'r adeilad os cânt eu gadael heb oruchwyliaeth.
9. Rhaid i anifeiliaid anwes gael eu brechu a'u trin yn rheolaidd am chwain a mwydod (os yw'n briodol). Rhaid darparu cofnodion milfeddyg sy’n cadarnhau brechiad neu driniaeth gyfredol i Dîm Tŷ Stryd Wood o fewn 21 diwrnod i wneud cais / yn chwarterol.
10. Chi sy'n gyfrifol am gadw pob rhan o'r eiddo yn lân ac yn rhydd rhag parasitiaid, fel chwain.
11. Rhaid i chi sicrhau nad yw eich anifeiliaid anwes yn achosi niwsans i breswylwyr eraill, eu gwesteion neu aelodau staff. Mae hyn yn cynnwys sŵn gormodol a bod yn ymosodol. Rhaid cadw anifeiliaid anwes dan reolaeth bob amser.
12. Ni ddylid caniatáu i anifeiliaid anwes faeddu y tu mewn i'r eiddo, ac eithrio anifeiliaid anwes mewn cawell ac anifeiliaid anwes sydd wedi'u hyfforddi i ddefnyddio basged wasarn. Rhaid symud unrhyw faw anifail anwes yn syth o fannau allanol yr Adeilad a chael gwared ag ef yn ddiogel ac yn hylan. Codir dirwy am beidio â glanhau ar ôl eich anifail anwes.
13. Ni chaiff cwsmeriaid fridio anifeiliaid na chynnig gwerthu unrhyw anifail yn yr eiddo.
14. Ni chaniateir cadw unrhyw anifail a restrir yn atodlen Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 yn yr eiddo.
15. Ni cheir cadw unrhyw anifail sydd â'r potensial i dyfu'n llawn fel oedolyn sy'n fwy na 15 cilogram yn yr eiddo.
16. Ni cheir cadw unrhyw gi a restrir o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 yn yr eiddo ac eithrio cŵn sydd wedi’u cofrestru ar y Mynegai Cŵn sydd wedi’u Heithrio.
Cyfyngiadau ar fridiau cŵn
Mae'r bridiau canlynol yn gyfyngedig:
Akitas, Malamute Alasca, Cŵn Tarw Americanaidd, Daeargi Swydd Stafford Americanaidd, Cŵn Ariannin, Mastiffs Tarw, Pinschers Doberman, Fila Brasileiros, Cŵn Bleiddiaid, Tosa Japaneaidd, Teirw Pit, Presa Canarios, Rottweiler, Daeargi Tarw Swydd Stafford, Tosa Inus, Hybrid Blaidd, pob cymysgedd o'r bridiau hyn
Mae'r anifeiliaid anwes canlynol yn gyfyngedig:
Mwncïod, Ffuredau, Da Byw, Ymlusgiaid. Mae’r landlord yn cadw’r hawl i wrthod preswyliad i unrhyw anifail yr ystyrir ei fod yn ymosodol nad yw ei frid wedi’i restru’n benodol. Os bydd unrhyw anifail anwes yn anafu unrhyw anifeiliaid anwes eraill, preswylwyr, neu staff ar y safle, gofynnir i'r preswylydd symud yr anifail anwes o'r eiddo ar unwaith.
Byddwn yn:
- Asesu addasrwydd yr eiddo unigol ar gyfer anifeiliaid anwes
- Rhoi canllawiau clir i breswylwyr o ran math a nifer yr anifeiliaid anwes a ganiateir
- Dilyn gweithdrefn gadarn sy’n rhoi pwyslais ar berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes, lle rhoddir caniatâd i gadw anifail anwes
- Ystyried tenantiaeth a/neu camau cyfreithiol os oes achosion o dorri amodau tenantiaeth neu les anifeiliaid
- Gwneud lwfans ar gyfer cŵn cymorth
- Gwirio caniatâd anifail anwes cyn/ar ôl ymweld â chi yn eich cartref at ddibenion archwilio neu gynnal a chadw.
- Mae’r Landlord yn cadw’r hawl, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, i ddirymu caniatâd i gadw anifail anwes yn yr eiddo ar unrhyw adeg. Pan fydd caniatâd yn cael ei ddirymu, bydd y Landlord yn rhoi 7 diwrnod o rybudd i'r Tenant i symud yr anifail anwes o'r eiddo. Os na chydymffurfir â hyn, bydd y tenant yn torri amodau'r Contract.
- Byddwn yn cadw'r holl ddata perthnasol ar ffeil y cwsmer ar y system rheoli eiddo wedi'i ddiweddaru gydag unrhyw wybodaeth am anifeiliaid anwes.
See the latest from our community by following us on Instagram Gallwch weld y diweddaraf o'n cymuned trwy ein dilyn ar Instagram @